Rhif y ddeiseb: P-06-1411

Teitl y ddeiseb: Rwy’n gwrthwynebu ‘Bil Diwygio’r Senedd’ Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 18 Medi 2023, yn dod yn gyfraith.

Geiriad y ddeiseb:

Mae’r Senedd yn cynnig 96 Aelod etholedig, yn hytrach na’r 60 presennol.
Mae Llafur a Phlaid Cymru eisiau gwario hyd at £120 miliwn ar greu mwy o wleidyddion diangen, yn lle gwario arian i drwsio:

🏥 Ein GIG
👩🏫 Ein hysgolion
🛣 Ein ffyrdd

A ydych am dalu rhagor o drethi yng Nghymru i ariannu’r biwrocratiaid newydd hyn?

 

 

 


1.        Y cefndir

Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar 17 Medi 2023.

Mae’r Bil yn mynd i’r afael â rhai o’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, a gyhoeddodd adroddiad ym mis Mai 2022.

Mae’r newidiadau a gynigir gan y Bil yn cynnwys:

§    Cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96;

§    Cyflwyno system etholiadol gyfrannol rhestr gaeedig i ethol Aelodau;

§    Dychwelyd i'r Senedd yn cael ei hethol am dymhorau o bedair blynedd;

§    Galluogi’r Senedd i ethol ail Ddirprwy Lywydd;

§    Cynyddu uchafswm Gweinidogion Cymru o 12 i 17 (gyda’r potensial i’w cynyddu i 19);

§    Rhoi darpariaethau ar waith ar gyfer cynnal adolygiadau o ffiniau etholaethol y Senedd; ac

§    Ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr i'r Senedd, ac Aelodau ohoni, gofrestru i bleidleisio mewn cyfeiriad yng Nghymru.

Pleidleisiodd y Senedd o 43 i 16 i dderbyn y Bil yn y trafodion Cyfnod 4 ar 8 Mai 2024.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil yn amcangyfrif mai cyfanswm cost net gweithredu’r Bil fydd £99,683,800 i £119,631,700 dros y cyfnod arfarnu wyth mlynedd rhwng 2024-25 a 2031-32. Mae’n ychwanegu na fu’n bosibl rhoi gwerth ariannol ar y buddion a fydd yn deillio o’r Bil, ond y bydd y Senedd mewn gwell sefyllfa i:

§    dwyn y Weithrediaeth i gyfrif;

§    craffu'n fanylach ar bolisi a deddfwriaeth; ac

§    ymgysylltu â’r etholwyr.

Wedi hynny, mae Comisiwn y Senedd wedi darparu amcangyfrifon cost diwygiedig yn seiliedig ar y Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau ar gyfer 2023-24 yn hytrach na Phenderfyniad 2022-23 a ddefnyddir at ddibenion memorandwm esboniadol y Bil. Byddai hyn yn ychwanegu rhwng £4,055,500 a £4,198,800 at gost amcangyfrifedig y Bil dros y cyfnod arfarnu wyth mlynedd.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol yw’r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil. 

Mae wedi dweud fod y Bill yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i bobl Cymru “gyflawni'r newidiadau angenrheidiol i foderneiddio'r Senedd, gan adlewyrchu Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.”

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil yn nodi na ragwelir y bydd arbedion cost cyffredinol o ganlyniad i’r Bil, ond mae’n tynnu sylw at nifer o fanteision sy’n deillio o’r Bil, nad oes gwerth ariannol iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys:

§    Bydd y Senedd mewn gwell sefyllfa i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif

§    Bydd y system etholiadol yn “cael gwared ar y dryswch…i etholwyr” drwy gael Aelodau wedi’u hethol drwy un system yn hytrach na dwy, a bydd yn darparu pleidlais fwy cyfrannol na’r system bresennol

§    Byddai Aelodau yn fwy hygyrch i’r bobl y maent yn eu cynrychioli oherwydd y gallu cynyddol i ymgysylltu â’r etholwyr, cymunedau a grwpiau rhanddeiliaid

§    Bydd Aelodau’n “ddarostyngedig i gyfreithiau’r Senedd” o ganlyniad i’r gofyniad preswylio ac y bydd mwy o “adnewyddu democrataidd” o ganlyniad i ethol y Senedd bob pedair blynedd yn hytrach na phump.

Mae’r Asesiad Effaith yn cyfeirio at dystiolaeth a roddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ynghylch meintioli maint yr enillion sydd eu hangen er mwyn gwneud iawn am y costau ychwanegol posibl yn sgil cael Senedd fwy. Gan gymhwyso ei gyfrifiadau i’r costau a nodir yn yr Asesiad, mae’n amcangyfrif y gallai gwelliant mewn gwerth neu arbedion ariannol (yn deillio o gapasiti gwell ar gyfer craffu) o lai na 0.1 y cant o Gronfa Gyfunol Cymru wrthbwyso’r costau ychwanegol sy’n deillio o’r Bil.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Sefydlwyd y Pwyllgor Biliau Diwygio ar 12 Gorffennaf 2023 ac arweiniodd ar waith craffu Cyfnod 1 ar y Bil.

Yn unol â'r broses ddeddfwriaethol safonol, bu’r Pwyllgor Cyllid (yn canolbwyntio ar oblygiadau ariannol y Bil) a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (yn ystyried ansawdd a chyfreithlondeb y ddeddfwriaeth) hefyd yn craffu ar y Bil.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei adroddiad cyfnod 1 ym mis Ionawr 2024, gyda 50 o argymhellion wedi’u gwneud.

Tynnodd adroddiad y Pwyllgor sylw at y ffaith fod llawer o’r bobl a ymatebodd i’w ymgynghoriad ar sail bersonol yn pryderu am y costau, gan gyfeirio at yr hinsawdd economaidd heriol a phwysau costau byw. Awgrymodd rhai y dylid blaenoriaethau gwariant arall, gan gynnwys iechyd, addysg a thrafnidiaeth.

Archwiliodd y Pwyllgor a yw costau’r Bil yn gymesur â’r manteision y disgwylir fydd yn deillio o gynyddu capasiti’r Senedd. Dywedodd yr Athro Alan Renwick, cyn-Aelod o'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, wrth y Pwyllgor:

“[…] when we're thinking about the merits of a larger Senedd, it seems to me, in the grand scheme of things, these are fairly small sums of money, and the benefits of a well-functioning legislature are very, very considerable. So, it's absolutely right to be careful about the costs, but I'm just wary of placing too much emphasis on those when we're looking at the Bill as a whole”

Nododd y Pwyllgor yr heriau sy’n gysylltiedig â meintioli’r manteision a allai ddeillio o “well effeithiolrwydd y Senedd” o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer yr Aelodau a’i bod yn anodd gwerthuso a meintioli effaith gwaith craffu.

Roedd yn datgan pe baem am weld dealltwriaeth y cyhoedd a rhanddeiliaid o rôl y Senedd yn gwella, ynghyd â’r rhesymeg dros y diwygiadau yn y Bil, rhaid i’r Senedd, ei phwyllgorau a’i Haelodau o’r Senedd barhau i ganfod ffyrdd o ddeall, mesur a chyfleu effaith eu gwaith craffu a chynrychioli.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.